Adborth yr Ysgolion

Dosbarthiadau Mandarin ar y Cwricwlwm yn Ysgol Gynradd Lansdowne
Bob Dydd Gwener 2010-2011

“Mae’r plant wedi dwlu ar ddysgu Mandarin gyda’r tiwtor Tsieinëeg (Fanzhi) o Sefydliad Conffiwsiws. Rydyn ni wedi cael ymateb gwych gan y rhieni a’r llywodraethwyr sy’n dweud bod y rhan newydd yma o’r cwricwlwm wedi cyfoethogi bywyd y plant. Fel ysgol rydyn ni’n credu mewn rhoi’r dechrau gorau yn eu haddysg i’n plant a chan fod Mandarin yn iaith sy’n tyfu ledled y byd rydyn ni’n teimlo bod y gwersi hyn yn helpu i wneud hyn gan roi’r cyfleoedd gorau posibl iddyn nhw gael gwaith yn y dyfodol.

Diolch yn fawr i bawb.”

Ysgol Gynradd Rhydypennau, Caerdydd
Wythnos Tsieina: 30 Tachwedd – 4 Rhagfyr 2009

“Ar ôl ein cyflwyniad diweddar i hanes, diwylliant a thraddodiad Tsieina, hoffwn ddiolch i chi am gydlynu’r fenter gyffrous yma. Rwyf wedi siarad â llawer o rieni’r plant a gymerodd ran ac mae pawb yn dweud cymaint o ddiddordeb a chymhelliant sydd gan y plant. Creodd ymroddiad y tîm a ddaeth i’r ysgol argraff fawr ar yr athrawon a minnau.”

Pennaeth Ysgol Gynradd Rhydypennau

Tutor Fanzhi with pupils from Lansdowne Primary School

Ysgol Gynradd Lansdowne gyda’u Tiwtor, Fanzhi

Ysgol Gynradd Rhydypennau

Design by Pink Sky - Build by Marble Cake