Bagloriaeth Cymru

Ym Magloriaeth Cymru, mae’r gydran ‘Cymru, Ewrop a’r Byd’ yn caniatáu ichi gynnwys o leiaf 20 awr o ddarpariaeth iaith. Mae Sefydliadau Confucius Cymru wedi rhedeg nifer o raglenni i ysgolion yn unswydd ar gyfer Bagloriaeth Cymru, a’r rheiny’n caniatáu i’r plant fodloni’r meini prawf ar gyfer ‘Cymru, Ewrop a’r byd; yng nghyd-destun Mandarin Tsieina.

Mae pob cwrs yn cynnig rhaglen 20 awr sydd ar gael ar ffurf:

  1. bloc dwys o dri diwrnod a hanner
  2. rhaglen pum diwrnod
  3. rhaglen o 20 awr wedi’u rhannu dros bedair wythnos

Yn ystod y rhaglen, disgwylir i’r myfyrwyr ddilyn nifer o sesiynau ar Fandarin Tsieina a Tsieinëeg Cymhwysol sy’n cynnwys edrych ar Fandarin drwy goginio, hanes, diwylliant, caligraffeg a dawns.

Ar ddechrau’r rhaglen mae’r plant yn cael Taflen Ffeithiau Tsieinëeg a Phortread. Mae’r rhain yn gallu cael eu rhannu â’u rhieni/gofalwyr ac ar ddiwedd y rhaglen mae pob plentyn yn gwneud prawf yn y dosbarth i adolygu’r hyn sydd wedi’i ddysgu. Wedyn maen nhw’n cael Tystysgrif Bresenoldeb bersonol mewn Saesneg a Tsieinëeg. Mae’r dystysgrif yn cynnwys logo pob corff sy’n cymryd rhan ac mae’n gallu cynnwys logo’r ysgol hefyd.

Mae’r ysgolion yn aml yn dewis gorffen yr wythnos â chyflwyniad neu wasanaeth lle y gall y disgyblion ddangos yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu i ddisgyblion eraill ac i’w rhieni drwy amryw o gyflwyniadau dramatig a thrafodaethau.

Oes gennych chi ddiddordeb i gael tîm i ymweld â’ch ysgol chi i redeg rhaglen Bagloriaeth Cymru am 20 awr? Cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion ac i ymholi am beth sydd ar gael a’r costau

Bagloriaeth Cymru

Bagloriaeth Cymru

Bagloriaeth Cymru

Bagloriaeth Cymru

Design by Pink Sky - Build by Marble Cake