Mandarin hyd at Gyfnod Allweddol 3
Mae Sefydliadau Confucius Cymru’n rhedeg nifer o raglenni dros 10, 20 a 30 o sesiynau mewn Mandarin i blant ysgol Cyfnod Allweddol 3. Gall rhaglenni gael eu datblygu a’u teilwra at anghenion penodol yr ysgol. Maen nhw’n cael eu cynnal ar hyn o bryd fel hyn:
- grwpiau amser cinio
- clybiau ar ôl ysgol
- dosbarthiadau ar y cwricwlwm
Mae’r tiwtoriaid yn rhedeg rhaglen amrywiol o ddatblygu iaith a Tsieinëeg gymhwysol sy’n addas i bob gallu.
Ar ddechrau’r rhaglen mae’r plant yn cael Taflen Ffeithiau Tsieinëeg a Phortread. Mae’r rhain yn gallu cael eu rhannu â’u rhieni/gofalwyr ac ar ddiwedd y rhaglen mae pob plentyn yn cael Tystysgrif Bresenoldeb bersonol mewn Saesneg a Tsieinëeg. Mae’r dystysgrif yn cynnwys logo pob corff sy’n cymryd rhan ac mae’n gallu cynnwys logo’r ysgol hefyd.
Oes gennych chi ddiddordeb i gael tîm i ymweld â’ch ysgol chi i redeg rhaglen Mandarin? Cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion ac i ymholi am beth sydd ar gael a’r costau.

Gyfnod Allweddol 3





