Prosiectau a ariannir gan HSBC

Mae nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd Caerdydd wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan Ymddiriedolaeth Addysg Fyd-eang HSBC i hybu cysylltiadau’r ardal â Tsieina. Mae’r dyfarniad yn cael ei roi mewn partneriaeth â’r Cyngor Prydeinig ac ymgynghorydd Ieithoedd Tramor Modern Caerdydd.

Mae’r ysgolion canlynol yng Nghaerdydd yn cymryd rhan yn y prosiect tair-blynedd:

  • Ysgol Gynradd Oakfield
  • Ysgol Gynradd Parc y Rhath
  • Ysgol Gynradd Tredelerch
  • Ysgol Gynradd Lansdowne
  • Ysgol Gynradd Sain Ffagan
  • Ysgol Uwchradd Cathays
  • Ysgol Uwchradd Cantonian
  • Ysgol Arbennig yr Hollies

Mae Sefydliad Confucius wedi’i enwi i fod yn bartner yn y prosiect ac mae’n gweithio ochr yn ochr â’r ysgolion i roi hwb i ddysgu’r iaith ac i hyrwyddo cyfleoedd i edrych ar ddiwylliant Tsieina.

Hoffech chi gael rhagor o fanylion am Ymddiriedolaeth Addysg Fyd-eang HSBC a chyfleoedd ariannol eraill gyda’r Cyngor Prydeinig? Cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion.

Dysgu yn y dosbarth

Dysgu yn y dosbarth

Talu sylw agos!

Talu sylw agos!

Design by Pink Sky - Build by Marble Cake