Wythnosau Tsieina Ysgolion Cynradd
“Ar ôl ein cyflwyniad diweddar i hanes, diwylliant a thraddodiad Tsieina, hoffwn ddiolch i chi am gydlynu’r fenter gyffrous yma. Rwyf wedi siarad â llawer o rieni’r plant a gymerodd ran ac mae pawb yn dweud cymaint o ddiddordeb a chymhelliant sydd gan y plant. Creodd ymroddiad y tîm a ddaeth i’r ysgol argraff fawr ar yr athrawon a minnau.”
Pennaeth Ysgol Gynradd Rhydypennau
Mae mwy na 30 o raglenni wythnos Tsieina wedi’u cynnal mewn ysgolion cynradd yng Nghymru ym mlwyddyn academaidd 2009-2010. Mae’r rhain yn gyfleoedd pwysig i blant ysgol (yn enwedig y rhai yng Nghyfnod Allweddol 2) sicrhau dealltwriaeth sylfaenol o Tsieina a Tsieinëeg, a allai godi dyheadau wedyn i ddatblygu iaith yn ystod Cyfnodau Allweddol 2 a 3.
Mae’r wythnos wedi’i dylunio i roi wyth o weithdai o awr yr un a hynny o blith amrywiaeth o agweddau ar iaith a diwylliant, gan gynnwys:
- Tai Chi
- coginio Tsieineaidd
- crefftau Tsieineaidd
- caligraffeg
- yr iaith Fandarin
- hanes Tsieina
- dawns Tsieina ac ymarfer corff y bore
- caneuon Tsieina
- peintio’r wyneb a mygydau traddodiadol
Ar ddechrau’r rhaglen mae’r plant yn cael Taflen Ffeithiau Tsieinëeg a Phortread. Mae’r rhain yn gallu cael eu rhannu â’u rhieni/gofalwyr ac ar ddiwedd y rhaglen mae pob plentyn yn cael Tystysgrif Bresenoldeb bersonol mewn Saesneg a Tsieinëeg. Mae’r dystysgrif yn cynnwys logo pob corff sy’n cymryd rhan ac mae’n gallu cynnwys logo’r ysgol hefyd.
Mae’r ysgolion yn aml yn dewis gorffen yr wythnos â chyflwyniad neu wasanaeth lle y gall y disgyblion ddangos yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu i ddisgyblion eraill ac i’w rhieni.
Oes gennych chi ddiddordeb i gael tîm i ymweld â’ch ysgol chi i redeg Wythnos Tsieina? Cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion ac i ymholi am beth sydd ar gael a’r costau.

Wythnosau Tsieina





