Partneriaeth yw Prosiect Ysgolion Cymru Tsieina a hynny rhwng Sefydliad Confucius Caerdydd a Sefydliad Confucius Llanbedr Pont Steffan. Mae’r bartneriaeth yn cael ei hariannu’n rhannol gan awdurdodau Tsieina mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Prydeinig Cymru a’r Ganolfan Ieithoedd Genedlaethol (CILT Cymru), i addysgu Tsieinëeg Mandarin a diwylliant Tsieina i ysgolion uwchradd a chynradd ledled Cymru.