Newyddion
Cyfleoedd am Fwrsari i fynychu’r Gynhadledd Tsieinëeg Flynyddol i Athrawon/Tiwtoriaid yn Llundain: 18-19 Mai 2012 Mae
SSAT (y Rhwydwaith Ysgolion) unwaith eto yn cynnal Cynhadledd Athrawon Tsieinëeg yn Llundain yr haf hwn. Mae’n bleser gennyf roi gwybod i chi am y gronfa fwrsarïau ar gyfer y gynhadledd honno sy’n cael ei chynnal yn Llundain ar 18-19 Mai 2012. Bydd cynrychiolwyr o Athrofa Confucius Cymru yn y gynhadledd ac rwy’n falch o roi gwybod i chi bod pedwar bwrsari ar gael gennym i ariannu dau athro/tiwtor rhan-amser a dau athro/tiwtor amser llawn. Dylai’r bwrsarïau dalu holl ffioedd y gynhadledd a’r rhan fwyaf o gostau teithio a llety. I gael manylion y gynhadledd, ewch i: here.
Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer bwrsari, cysylltwch â confucius@caerdydd.ac.uk gan roi esboniad byr o’ch rôl bresennol a pham bydd y gynhadledd o werth i chi yn eich arfer broffesiynol yn y dyfodol, yn eich tyb chi. Dylai pawb gofrestru eu diddordeb erbyn dydd Mercher 09 Mai fan bellaf.
Caiff digwyddiad nesaf Fforwm Ysgolion Tsieina a Chymru ei gynnal yng Ngholeg Llanymddyfri ar 5 – 6 Mawrth 2012.
Mae’r digwyddiad fforwm hwn yn cefnu ar ymagweddau blaenorol o ‘drafodaethau bwrdd crwn’ i gynnig ‘Hyfforddiant a Chipion Ymarferol ar Ddysgwyr Tsieinëeg’.
Yn ystod y digwyddiad, byddwn yn croesawu Shaz Lawrence o’r UD, sef sylfaenydd www.creativechinese.com sydd wedi cyflwyno gweithdai Hyfforddiant Athrawon Tsieinëeg ym mhedwar ban byd. Byddwn yn cynnig ystod o weithgareddau diwylliannol Tsieineaidd a sesiynau blasu gan gynnwys Tai Chi a Chaligraffeg a Chrefftau Llaw Tsieineaidd. Bydd y digwyddiad fforwm hefyd yn gyfle i lansio Unedau Iaith Bagloriaeth newydd mewn Mandarin a Chymraeg wedi’u hachredu gan y FfCCh.
Fel gyda digwyddiadau fforwm blaenorol, mae lleoedd am DDIM ond maent yn brin. Darperir llety a bwyd.
Cysylltwch â ni am ragor o fanylion neu i gadw lle am ddim.
Cynhadledd Gymru-gyfan ar Gynnwys Tsieinëeg yng Nghwricwlwm Ysgolion
Mae ysgolion ledled Cymru wedi cwrdd ag arbenigwyr iaith i drafod datblygu astudiaethau Tsieineaidd ar bob lefel o addysg yng Nghymru.
Trefnwyd trydydd Fforwm Ysgolion Cymru Tsieina gan Sefydliad Confucius Caerdydd, mewn partneriaeth â Sefydliad Confucius Llanbedr Pont Steffan. Cafodd ysgolion a sefydliadau Cymru eu gwahodd i Gonwy yng ngogledd Cymru i gael trafodaeth ford gron ddeuddydd gydag arbenigwyr iaith, ymgynghorwyr ar ieithoedd tramor modern, tiwtoriaid Tsieinëeg, awdurdodau dilysu ac ymarferwyr iaith er mwyn archwilio dyfodol Astudiaethau Tsieineaidd mewn ysgolion yng Nghymru.
Adeiladodd y trafodaethau ar faterion a godwyd mewn cyfarfodydd fforwm cynharach yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru, Cyngor Prydeinig Cymru a Cilt Cymru. Mae Fforwm Ysgolion Cymru Tsieina yn ceisio gweithio ochr yn ochr â phob ysgol yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda Tsieina a chodi dyheadau ar gyfer ysgolion eraill a hoffai weld astudiaethau Tsieineaidd yn cael eu hintegreiddio i’w rhaglenni yn y dyfodol.
Mae’r fforymau’n rhan o Brosiect Sefydliadau Confucius ar gyfer Ysgolion Cymru Tsieina. Nod y ddau sefydliad Confucius yw hybu dealltwriaeth o iaith a diwylliant Tsieina ledled Cymru. Y llynedd, llwyddodd y prosiect i gynnal darparu dros 100 o gyrsiau Tsieinëeg i ysgolion o ledled Cymru.
Dywedodd Scott Andrews, Rheolwr Cyffredinol Sefydliad Confucius, yng Nghanolfan Addysg Gydol Oes Prifysgol Caerdydd: “Tsieina fydd yr economi fwyaf yn y byd o fewn y 10-15 mlynedd nesaf a Mandarin yw’r iaith a siaredir yn fwyaf eang yn y byd. Bydd gwell gafael ar yr iaith ac ar ddiwylliant Tsieina yn galluogi cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru i fod wedi’u cyfarparu’n well i wneud cysylltiadau a bod yn bartneriaid gyda Tsieina.
“Mae’r cyfarfod gogledd Cymru hwn o fforwm Ysgolion Cymru Tsieina wedi denu mwy ysgolion fyth nag yw cyfarfodydd blaenorol. Mae’r fforwm wedi dangos y diddordeb cynyddol mewn datblygu cyfleoedd yn yr iaith Tsieinëeg fel dewis arall gwirioneddol mewn ieithoedd tramor modern yn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru.
Yn ddiweddar, enillodd Ysgol Uwchradd Cathays statws Ystafell Ddosbarth Confucius fel ysgol arloesi ar gyfer darparu’r iaith Tsieinëeg. Dywedodd Mrs Eluned Davies-Scott, Pennaeth Ieithoedd Cymunedol yn Cathays: “Rwyf wedi gweld y fforwm yn werthfawr iawn erioed ac rwyf wrth fy modd yn gweld y datblygiadau yng Nghymru ers dechrau’r fforwm.”
Archebwch eich lle AM DDIM yn nhrydydd cyfarfod Fforwm Ysgolion Tsieina Cymru
Caiff trydydd cyfarfod Fforwm Ysgolion Tsieina Cymru ei gynnal yng Ngwesty a Spa y Cei yng Nghonwy (www.quayhotel.co.uk ) ar ddydd Llun 21 – dydd Mawrth 22 Tachwedd 2011. Roedd y ddau gyfarfod cyntaf yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Caerdydd, Cynulliad Cymru, a Cilt Cymru, a ymunodd ag athrawon, penaethiaid, ymgynghorwyr ar Ieithoedd Tramor Modern ac awdurdodau arholi/dilysu yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin. Nod y cyfarfod hwn yw adeiladu ar y seiliau a osodwyd gan y ddau gyfarfod cyntaf hynny ac unwaith eto caiff ei gynnal ar y cyd gan Athrofâu Confucius Caerdydd a Llanbedr Pont Steffan.
Mae’r digwyddiad yn dechrau gyda phryd o fwyd gyda’r hwyr a derbyniad croesawu ar 21 Tachwedd ac wedyn bydd diwrnod llawn o gyflwyniadau a grwpiau trafod ar 22 Tachwedd, yn cau am tua 3.30pm.
Mae lleoedd AM DDIM a thelir am yr holl gostau llety, bwyd a thrafnidiaeth, ond er mwyn sicrhau lle bydd angen i chi archebu trwy gwblhau ymholiad ar-lein gan glicio YMA
Eich cyfle chi i wneud cais am statws Dosbarth Confucius
– saith cyfle newydd ar gyfer Dosbarthiadau Confucius i Gymru – dyddiad cau 21 Hydref 2011
Mae’n dda gan Brosiect Ysgolion Cymru Tsieina gyhoeddi ei fod wedi agor ail gyfnod ymgeisio i ysgolion ledled Cymru wneud cais i gael eu hystyried ar gyfer statws Dosbarth Confucius. Mae’r cyfle hwn yn bosibl yn sgil cronfa ddatblygu gan Lywodraeth Cymru a’r gobaith yw y bydd yr ymgyrch yn arwain at ddatblygu cynifer â saith Dosbarth Confucius newydd i Gymru. Gwahoddir ceisiadau gan unrhyw ysgolion sydd am gymryd rhan, ac mae’r meini prawf ar gyfer y ceisiadau wedi’u rhestru isod:
a. Gwahoddir ceisiadau am Ddosbarthiadau Confucius gan ysgolion uwchradd/colegau addysg bellach yn bennaf, ond nid yn unig.
b. Dylai’r ysgolion allu dangos pam y bydd statws Ddosbarth Confucius yn adeiladu neu’n gwella ar sgiliau llythrennedd presennol y disgyblion.
c. Dylai’r ysgolion allu dangos bod y safonau mewn Cymraeg a Saesneg eisoes yn ‘foddhaol’ o leiaf – (ar sail tystiolaeth).
d. Hanes cydnabyddedig o arbenigedd mewn datblygu iaith ac, os oes modd, wrth ddarparu gweithgareddau yn iaith/diwylliant Tsieina (gan roi enghreifftiau)
e. Dylai pob cais gael ei ategu drwy enwi cynrychiolydd o’r AALl (yn unol â’r hyn a nodir yn y ffurflen gais)
f. Dylai’r ysgolion ddangos sut y bydden nhw fel Dosbarth Confucius yn gallu sicrhau’n ymarferol fod cyfleoedd dysgu iaith yn cael eu cynnig i ysgolion uwchradd eraill neu ysgolion cynradd yn eu hardal A/NEU sut maen nhw’n gallu gwireddu arbenigedd thematig penodol a fyddai’n hwb i addysgu iaith a diwylliant Tsieina i blant ysgol yng Nghymru (er enghraifft, wrth addysgu Tsieinëeg drwy gyfrwng y Gymraeg neu feithrin cysylltiadau Tsieineaidd dwyochrog penodol â phlant ysgol o wledydd gwahanol).
g. Hwyrach yr hoffai’r ysgolion ddarparu llythyrau cefnogi eraill ar yr adeg hon; ond byddwn yn gofyn am lythyrau ategol pendant yn nes ymlaen yn yr astudiaeth ddichonoldeb (a fydd yn cael ei chynnal ar ôl creu rhestr fer o’r ceisiadau cychwynnol).
h. Dylai pob cais egluro lefel y ddarpariaeth staffio (athrawon a gweinyddwyr) a faint o le fydd yn cael ei ddarparu.
Rhaid i bob cais gyrraedd Prosiect Ysgolion Cymru Tsiena erbyn 21 Hydref 2011 fan bellaf. Ar ôl hynny bydd panel o gynrychiolwyr o Sefydliadau Confucius Cymru, Cyngor Prydeinig Cymru a CILT Cymru yn cyfarfod i ddewis rhestr fer o ymgeiswyr. Wedyn bydd yna gyfweliad i bob ysgol ar y rhestr fer a bydd y Sefydliadau Confucius yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb cyn gwneud argymhellion i Hanban.
Cliciwch yma i gael copi o’r Ffurflen Gais
Information about Confucius Classrooms for Wales
Schedule for new round of bids for Confucius Classrooms
Dosbarthiadau Conffiwsiws San Diego yn Dangos Cyferbyniad Buddiol i Brosiect Ysgolion Cymru Tsieina
Bu ymweliad diweddar â’r Sefydliad Conffiwsiws (CI) ym Mhrifysgol Daleithiol San Diego (SDSU) yn gyfle i Scott Andrews (Rheolwr Cyffredinol y Prosiect Ysgolion) a’r Athro Siyi Fu (Cyfarwyddwr Academaidd Sefydliad Conffiwsiws Caerdydd) ymweld â sawl Dosbarth Conffiwsiws (CC).
Mae gan CCs Prifysgol Daleithiol San Diego nifer o heriau addysgol tebyg i Gymru – mae maint y boblogaeth yn debyg iawn ac am eu bod yn agos i’r ffin â Mecsico mae Sbaeneg yn cael ei siarad yn helaeth ochr yn ochr â’r Saesneg, yn union fel mae’r Gymraeg yn cael ei siarad yn helaeth ochr yn ochr â’r Saesneg yng Nghymru. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu mewn dosbarthiadau yn yr ysgol ac yng nghyfrwng hyfforddiant y plant. Mae cynnwys Tsieinëeg yn y maes llafur yn dod â thrydedd iaith i ddisgyblion mor ifanc â 6 oed ymdopi â hi. Mae Sefydliad Conffiwsiws Prifysgol Daleithiol San Diego yn estyn allan i 22 o ysgolion yn ardal San Diego drwy eu rhaglen o Ddosbarthiadau Conffiwsiws ac mae Mandarin yn cael ei datblygu drwy nifer o ddulliau gwahanol ym mhob cyfnod o addysg y plant o’r ysgol feithrin i’r ysgol uwchradd.
Gwahoddwyd y gwesteion o Gymru i arsylwi ar blant mewn ‘prosiectau trochi’ sy’n golygu bod hyd at 70% o’u holl ddosbarthiadau (Mathemateg, Gwyddoniaeth, Hanes, etc) yn cael eu haddysgu drwy’r Tsieinëeg. Gan hynny, roedd plant yn graddio o’r ysgol elfennol i’r ysgol ganol gyda lefel uchel o hyfedredd mewn Tsieinëeg lafar.
Mae’r Sefydliadau Conffiwsiws yn SDSU ac yng Nghaerdydd yn bartneriaid i Brifysgol Xiamen, felly mae’r tair prifysgol erbyn hyn yn ystyried cyfleoedd ar gyfer cydweithredu ehangach yn eu rhaglenni Dosbarthiadau Conffiwsiws.

Shaz Lawrence



Yr Athro Fu (CCI) a’r Dr Chen (SDSU) yn arsylwi arblant mewn Prosiect Trochi mewn Dosbarth Conffiwsiws





